John GwynforEDWARDSYn ddisymwth ond yn dawel yng Nghartref Nyrsio Brondesbury, Aber-teifi ar ddydd Gwener Ionawr 29, 2016 hunodd Gwynfor, Blaenllebu, Beulah, Castell Newydd Emlyn yn 84 mlwydd oed; priod hoff y diweddar Morfydd, tad cefnogol Arwyn a'i briod Sara, brawd annwyl Iorwerth, Leslie, Merfyn, Oswyn ac Angela. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus a Chladd-edigaeth yng Nghapel Beulah, dydd Mawrth Chwefror 9, am 1.30 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at yr 'RNLI' trwy law caredig Y Cynghorydd Lyndon Lloyd, Penglais, Beulah, Castell Newydd Emlyn, Ceredigion, SA38 9QE.
Keep me informed of updates